Part-Time-Prospectus

Cyrsiau rhan-amser ar gyfer Medi 2010 i’w gweld yma

 
PDF Print E-mail

Cyrsiau Dysgu Gydol Oes

 
Mae ystod o gyrsiau dysgu gydol oes o ansawdd uchel yn dechrau ym mis Medi, yn amrywio o gyrsiau byr sy’n parhau weithiau am ychydig o wythnosau’n unig, hyd at ddyfarniadau o safon uchel sy’n ddwy flynedd o hyd.
 
Mae prosbectws rhan-amser ar gyfer 2010/11, sy'n cynnwys y cyrsiau sydd ar gynnig yng Ngholeg Gorseinon a Choleg Abertawe, ar gael yn awr.
  
Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud, cewch groeso mawr yn y Coleg ynghyd â phob cymorth i’ch helpu i deimlo’n gyffyrddus wrth i chi ddechrau astudio. Mae’r awyrgylch yn gyfeillgar a byddwch yn cwrdd â phobl newydd fydd â diddordebau tebyg i’ch rhai chi.
 
Mae’r staff yn ymwybodol iawn o anghenion oedolion-fyfyrwyr ac mae’r cymorth a’r arweiniad y byddwn yn eu cynnig yn cael eu hadlewyrchu yn y llwyddiant a welir ymhlith ein myfyrwyr rhan-amser. Bu hyblygrwydd, o safbwynt gweithredu’r cyrsiau a gofynion presenoldeb, yn elfen allweddol o ran codi nifer y bobl fydd yn cymryd rhan.
 
I gael gwybodaeth ynghylch unrhyw agwedd ar ein darpariaeth ran-amser, neu i gofrestru, cysylltwch â’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn Heol Alexandra, Gorseinon (01792) 893054.

I gadw lle ar unrhyw gwrs

Ffoniwch ...
Y Ganolfan Dysgu Gydol Oes ar (01792) 893054

Ewch i’r ...
Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn Heol Alexandra, Gorseinon, Dydd Llun - Dydd Gwener rhwng 9.00 a 4.30

Dewch i ...
Noson Arweiniad ac Ymrestru yn un o’n canolfannau pryd y bydd aelodau o’r staff ar gael i roi gwybodaeth a chyngor ar bob un o’r cyrsiau a gynigir gennym.
 
Noder: Ni fydd hi'n bosib cadarnhau eich lle ar y cwrs os byddwch heb dalu. Efallai y bydd y Coleg yn gallu eich helpu â'r ffioedd cyrsiau. Ffoniwch (01792) 893054 i gael cyngor.
Cedwir yr hawl gan y Coleg i newid, dileu neu derfynu unrhyw ddosbarth nad yw’n ymarferol ei gynnal.
Mae gwybodaeth ar gael mewn ffurfiau eraill ar gyfer unrhyw rai sydd â nam ar eu golwg.

 
Gorseinon Regeneration Strategy Logo, National Training Awards Logo, QS Logo
ESF logo
Leonardo Project logo
 
Joomla Templates by Joomlashack