Mae'r Coleg yn cynnig hyd at 50 o bynciau Safon Uwch/Uwch Gyfrannol ac ystod eang o gyrsiau Galwedigaethol. Mae hyblygrwydd y ddarpariaeth yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gyfuno pynciau Safon Uwch/Uwch Gyfrannol ag unedau Galwedigaethol.
Ym mhob un o’r pynciau Safon U, gelwir y flwyddyn gyntaf o astudio yn Safon UG ac, fel arfer, bydd yr asesiad allanol ar gyfer y safon yma yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Blwyddyn U2 yw’r ail flwyddyn o astudio a chynhelir arholiadau allanol bryd hynny hefyd er mwyn ennill Dyfarniad llawn y Safon U.
Bydd llawer o fyfyrwyr yn astudio 4 pwnc UG yn y Flwyddyn gyntaf ac yna byddan nhw’n parhau ag o leiaf 3 o’r pynciau hynny hyd at y Safon U lawn.
Os mai’r gwaith cwrs oedd eich hoff elfen o’r TGAU yn hytrach na’r arholiadau, yna mae’n bosib mai cwrs Galwedigaethol fydd y dewis gorau i chi. Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau a bydd myfyrwyr, bob blwyddyn, yn symud ymlaen i gwrs Addysg Uwch o’u dewis neu’n mynd i weithio.
Bydd y cyrsiau hyn yn canolbwyntio mwy ar y ddisgyblaeth alwedigaethol sydd ynddyn nhw a byddan nhw’n arwain at lwybrau gyrfaol penodol. Mae cyrsiau galwedigaethol ar gael ar lefelau gwahanol a gellir eu cyfuno â chymwysterau eraill, gan gynnwys Safon UG/U, i’r myfyrwyr gael rhaglen astudio gyflawn.
Diploma Cyntaf BTEC- cwrs blwyddyn o chwe uned, cyfwerth â 4 TGAU
Diploma Cenedlaethol BTEC - dyfarniadau dwy flynedd o 18 uned, cyfwerth a 3 Safon U
Tystysgrif Genedlaethol BTEC - dyfarniadau dwy flynedd o 12 uned, cyfwerth â 2 Safon U
NVQ - ar gael mewn rhai meysydd galwedigaethol
Ar gyfer pob un o’r cyrsiau hyn, gofynnir i chi lunio portffolio o dystiolaeth a gaiff ei asesu’n fewnol. Mae rhai unedau yn rhai o’r cyrsiau yn cael eu hasesu drwy brofion allanol.
GOFYNION MYNEDIAD
Fel arfer bydd disgwyl i fyfyrwyr fod â’r isafswm canlynol o gymwysterau mynediad:
Cyrsiau UG - 7 pas ar radd C yn y TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg os yn bosib.
BTEC Diploma Cenedlaethol - 5 TGAU ar radd C neu BTEC Diploma Cyntaf ar glod neu anrhydedd
BTEC Diploma Cyntaf - 1 TGAU ar radd C, ynghyd â nifer ar radd D
Cerbydau Modur - dim gofynion mynediad penodol
Mae’n bosib y bydd angen TGAU penodol ar radd C neu’n uwch ar rai pynciau / cyrsiau. Nodir y rhain yn y wybodaeth ar y pynciau / cyrsiau.
Lle na fydd gan y myfyrwyr y gofynion angenrheidiol ond bod amgylchiadau arbennig, yna caiff pob cais ei ystyried yn unigol yn ôl ei haeddiant.
MONITRO CYNNYDD
Bydd cydlynwyr a darlithwyr yn rhoi adroddiad misol i’r Cyfarwyddwyr Astudio ar bob myfyriwr, fydd yn cynnwys presenoldeb, ymdrech a chyrhaeddiad. Cynhelir Nosweithiau Cynnydd ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid yn ystod y flwyddyn.
Mae symud ymlaen i ail flwyddyn y cwrs yn amodol ar lwyddo yn arholiadau’r flwyddyn gyntaf ar gyfer myfyrwyr Safon U ac, ar gyfer myfyrwyr Galwedigaethol, ar gwblhau gwaith cwrs y flwyddyn gyntaf a chael presenoldeb o 80% . Fodd bynnag, rydyn ni bob amser yn fodlon ystyried yr amgylchiadau hynny lle y gallai materion personol fod wedi effeithio ar gynnydd.
FFIOEDD
Mae’n ofynnol bod pob myfyriwr, pa gwrs bynnag y bydd yn ei dderbyn, yn talu ffi gofrestru’r Coleg.
Bydd pob ymgeisydd amser llawn yn cael eu cyfweld cyn iddyn nhw ddechrau ar eu cwrs. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd rhwng Ionawr a Mehefin bob blwyddyn. Caiff darpar fyfyrwyr, felly, eu hannog i wneud cais yn gynnar. Ni roddir ystyriaeth i unrhyw gais a dderbynnir ar ôl Ebrill 30ain 2010 ond ar ddisgresiwn y Coleg.