Part-Time-Prospectus

Cyrsiau rhan-amser ar gyfer Medi 2010 i’w gweld yma

 
PDF Print E-mail

Croeso

Wrth i mi ysgrifennu hwn, rydym yn dathlu agor Coleg Gŵyr Abertawe, coleg a ffurfiwyd drwy uno Coleg Gorseinon a Choleg Abertawe.

Mae'r uno yn dechrau cyfnod newydd o addysg ôl-orfodol yn Abertawe, cyfnod o gydweithredu, ehangu dewis a gwella mynediad i addysg yn yr ardal hon.  Mae'n golygu dwyn ynghyd y gorau o'r hyn sy'n cael ei gynnig ym mhob un o'r Colegau.

Bydd yn "fusnes fel arfer" i raddau helaeth eleni.  Mae ein prosbectysau yn amlinellu dewis o raglenni amrywiol a lleoliad y rhaglenni hynny.  Os oes unrhyw newidiadau yn y dyfodol, wrth gwrs byddwn yn rhoi digon o rybudd i'n dysgwyr.

Mae hon yn adeg gyffrous i'r Coleg newydd; mae nifer y myfyrwyr sy'n mynd ymlaen at addysg uwch yn cynyddu trwy'r amser - mae nifer y myfyrwyr ar safle Gorseinon ymysg yr uchaf yng Nghymru.  Mae carfan eleni wedi cael ei derbyn i astudio mewn prifysgolion a cholegau arbenigol ledled y DU, gydag un deg chwech o fyfyrwyr yn mynd i golegau Rhydychen a Chaergrawnt.

Rydym hefyd yn datblygu cais ar gyfer safle canol dinas lle rydym yn gobeithio darparu'r cyfleusterau diweddaraf ar gyfer dewis eang o hyfforddiant sgiliau galwedigaethol, gan arwain ein myfyrwyr o gamau cynnar datblygu sgiliau i gyrsiau technegol ar lefel gradd.

Fe welwch fod y Coleg yn lle cyfeillgar a chefnogol i astudio.  Rydym yn disgwyl i'n dysgwyr anelu'n uwch ac rydym yn cael rhai o'r canlyniadau arholiad gorau yng Nghymru.

Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael fy newis i arwain Coleg Gŵyr Abertawe a byddaf yn sicrhau bod y safonau uchel iawn a gyflawnwyd yng Ngholegau Gorseinon ac Abertawe yn parhau yn y dyfodol.

Dewch i'n Nosweithiau Agored i gael gwybod beth sydd gan y coleg newydd, Coleg Gŵyr Abertawe i'w gynnig.  Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

 

Nick Bennett

Pennaeth a Phrif Weithredwr

Coleg Gŵyr Abertawe

 
 
 
Joomla Templates by Joomlashack