Wrth i mi ysgrifennu hwn, rydym yn dathlu agor Coleg Gŵyr Abertawe, coleg a ffurfiwyd drwy uno Coleg Gorseinon a Choleg Abertawe.
Mae'r uno yn dechrau cyfnod newydd o addysg ôl-orfodol yn Abertawe, cyfnod o gydweithredu, ehangu dewis a gwella mynediad i addysg yn yr ardal hon. Mae'n golygu dwyn ynghyd y gorau o'r hyn sy'n cael ei gynnig ym mhob un o'r Colegau.
Bydd yn "fusnes fel arfer" i raddau helaeth eleni. Mae ein prosbectysau yn amlinellu dewis o raglenni amrywiol a lleoliad y rhaglenni hynny. Os oes unrhyw newidiadau yn y dyfodol, wrth gwrs byddwn yn rhoi digon o rybudd i'n dysgwyr.
Mae hon yn adeg gyffrous i'r Coleg newydd; mae nifer y myfyrwyr sy'n mynd ymlaen at addysg uwch yn cynyddu trwy'r amser - mae nifer y myfyrwyr ar safle Gorseinon ymysg yr uchaf yng Nghymru. Mae carfan eleni wedi cael ei derbyn i astudio mewn prifysgolion a cholegau arbenigol ledled y DU, gydag un deg chwech o fyfyrwyr yn mynd i golegau Rhydychen a Chaergrawnt.
Rydym hefyd yn datblygu cais ar gyfer safle canol dinas lle rydym yn gobeithio darparu'r cyfleusterau diweddaraf ar gyfer dewis eang o hyfforddiant sgiliau galwedigaethol, gan arwain ein myfyrwyr o gamau cynnar datblygu sgiliau i gyrsiau technegol ar lefel gradd.
Fe welwch fod y Coleg yn lle cyfeillgar a chefnogol i astudio. Rydym yn disgwyl i'n dysgwyr anelu'n uwch ac rydym yn cael rhai o'r canlyniadau arholiad gorau yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael fy newis i arwain Coleg Gŵyr Abertawe a byddaf yn sicrhau bod y safonau uchel iawn a gyflawnwyd yng Ngholegau Gorseinon ac Abertawe yn parhau yn y dyfodol.
Dewch i'n Nosweithiau Agored i gael gwybod beth sydd gan y coleg newydd, Coleg Gŵyr Abertawe i'w gynnig. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
Nick Bennett
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Coleg Gŵyr Abertawe